Mae oedi i’r broses o dynnu gwrthryfelwyr a phobol gyffredin allan o ddwyrain Aleppo yn Syria, er gwaethaf cyflwyno cadoediad neithiwr.

Cafodd bysus fynediad i’r ddinas ar ôl y cadoediad, ond dydyn nhw ddim wedi gadael eto wrth i lywodraeth Syria fynnu bod eu milwyr eu hunain a phobol gyffredin yn cael gadael dinasoedd a threfi eraill sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr.

Serch hynny, does dim lle i gredu ar hyn o bryd fod y cadoediad mewn perygl.

Mae disgwyl i’r rheiny sy’n cael eu rhyddhau o ddwyrain Aleppo gael symud i rannau gogleddol y wlad.

Yn y cyfamser, mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod 82 o bobol gyffredin wedi cael eu lladd gan luoedd y llywodraeth.

Maen nhw’n dweud bod llywodraeth Bashar Assad yn gyfrifol am nifer fawr o achosion o ladd yn y ddinas, ond maen nhw’n gwadu’r honiadau.