Mae cwmni hedfan cenedlaethol Pacistan yn dweud bod un o’i awyrennau wedi mynd ar goll yn fuan wedi iddi godi o faes awyr yng ngogledd y wlad, gyda 40 o bobol ar ei bwrdd.
Mae llefarydd ar ran Pakistan International Airlines yn dweud eu bod wedi colli pob cysylltiad gyda’r awyren fore Mercher, a’u bod ar hyn o bryd yn gwneud “popeth o fewn eu gallu” er mwyn dod o hyd iddi.
Mae heddu lleol wedi bod ar deledu’r wlad yn siarad am y digwyddiad, ac yn cadarnhau fod yr awyren wedi cwympo i’r ddaear mewn pentre’ yng ngogledd orllewin Pacistan, a bod timau achub yn ceisio cyrraedd y safle.