Pearl Harbour
Mae Prif Weinidog Siapan, Shinzo Abe, wedi cyhoeddi y bydd yn ymweld â Pearl Harbour gydag Arlywydd yr UDA, Barack Obama, cyn diwedd y flwyddyn.

Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw brif weinidog o Siapan i ymweld â’r safle yn Hawaii ers yr ymosodiad gan Siapan yn 1941, gan yrru’r Unol Daleithiau i’r Ail Ryfel Byd.

Ychwanegodd Shinzo Abe y bydd yn ymweld â Pearl Harbour ym mis Rhagfyr ac yna’n cynnal cynhadledd olaf gyda Barack Obama cyn iddo yntau drosglwyddo’i awenau fel Arlywydd America.

Ym mis Mai eleni, Barack Obama, oedd yr Arlywydd cyntaf erioed o America i ymweld â Hiroshima lle ollyngwyd y bom atomig cyntaf ar bobol.