Map o Syria (o wefan Wikipedia)
Mae lluoedd yr Arlywydd Assad yn Syria yn dal i ennill tir yn Aleppo gan gipio rhagor o’r ddinas o ddwylo gwrthryfelwyr.

Ers dechrau’r cyrch diweddaraf rai wythnosau’n ôl, mae’r gwrthryfelwyr wedi colli tua hanner y diriogaeth yr oedden nhw’n ei dal yn y ddinas. Mae lluoedd y llywodraeth wedi ennill rheolaeth ar y ffordd i’r maes awyr i’r dwyrain o’r ddinas hefyd.

Parhau mae’r ymladd gydag ymosodiadau o’r awyr ac ergydion mortar ar gadarnle olaf y gwrthryfelwyr yn nwyrain y ddinas heddiw. Mae adroddiadau fod o leiaf dri o bobl wedi eu lladd.