Mae dau o bobol wedi’u lladd a chwech yn dal ar goll wedi cwymp mewn gwaith copr yn ne-orllewin gwlad Pwyl.

Fe ddigwyddodd y daeargryn toc wedi 9yh nos Fawrth, rhyw 3,610 troedfedd (1,100m) dan-ddaear yng ngwaith Rudna yn Polkowice.

Mae chwilwyr wedi dod o hyd i un corff. Ond mae un gweithiwr a gafodd ei ddwyn i’r wyneb, wedi marw ers hynny.

Mae pump o weithwyr eraill wedi’u cludo i’r ysbyty, tra bod naw tim o chwilwyr yn dal i chwilio am y rheiny sydd ar goll.