Yr Arlywydd Yoweri Museveni (Llun: PA)
Mae o leiaf 19 o bobol wedi marw’n dilyn brwydro ffyrnig rhwng lluoedd Uganda a gwrthryfelwyr ar y ffin gyda’r Congo.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod gwrthryfelwyr wedi lladd pedwar o blismyn ac wedi anafu milwr.

Mae lle i gredu bod y gwrthryfelwyr yn bleidiol i’r brenin torfol Wesley Mumbere, sy’n feirniadol o lywodraeth y wlad.

Mae cryn dipyn o wrthwynbiad i Arlywydd Uganda, Yoweri Museveni yn rhanbarth Kasese, lle mae Mumbere yn teyrnasu.