Park Geun-hye, arlywydd De Korea (llun: PA)
Mae tua miliwn o bobl wedi bod yn protestio ar strydoedd Seoul, prifddinas De Korea, yn galw am ymddiswyddiad yr arlywydd Park Geun-hye.

Dyma’r pum Sadwrn yn olynol i dyrfaoedd anferth fod yn dangos eu gwrthwynebiad i’r arlywydd amhoblogaidd.

Mae’n cael ei chyhuddo o gynorthwyno gweithgareddau troseddol un o’i hymgynghorwyr sydd o dan amheuaeth o gamddefnyddio’i grym i adeiladu ffortiwn anghyfreithlon.

Dywed prif wrthblaid y wlad y bydd yn cynnig pleidlais i uchel-gyhuddo’r arlywydd yn y senedd ddiwedd yr wythnos nesaf neu’r wythnos ganlynol, ac mae disgwyl y bydd rhai o aelodau plaid Park ei hun yn cefnogi’r cynnig.

Mae’r protestiadau wedi bod yn heddychlon ar y cyfan, ond mae tensiynau wedi bod rhwng yr heddlu a ffermwyr sydd wedi bod yn rhwystro’r traffig gyda’u tractors.