(map o wefan Wikipedia)
Mae adroddiadau fod lluoedd llywodaeth Syria wedi cipio cymdogaeth allweddol yn ninas Aleppo yng ngogledd y wlad.

Mae dwyrain Aleppo, dinas fwyaf Syria, wedi bod yn nwylo gwrthryfelwyr ers 2012, ac mae brwydro caled wedi bod ar ei strydoedd ers cychwyn cyrch newydd gan y llywodraeth i ailgipio’r ddinas 10 diwrnod yn ôl.

Dywed y fyddin bellach fod eu lluoedd wedi cipio rheolaeth lawn o gymdogaeth Hanano. Hon oedd y gymdogaeth gyntaf yn y ddinas i syrthio i ddwylo’r gwrthryfelwyr.

Amcangyfrifir bod 357 o bobl wedi cael eu lladd yn y cyrch diweddaraf.