Fidel Castro (llun: PA)
Mae Fidel Castro, cyn-arweinydd Cuba ac un o ffigurau mawr yr 20fed ganrif, wedi marw.

Cyhoeddwyd marwolaeth y chwyldroadwr sosialaidd gan ei frawd, Raul Castro, arlywydd presennol Cuba, ar deledu’r wladwriaeth yn hwyr neithiwr.

Dywedodd y bydd yn cael ei amlosgi heddiw ac y bydd cyfnod o alaru cenedlaethol yn cychwyn. Gorffennodd y cyhoeddiad gyda’r slogan “Tuag at y fuddugoliaeth, bob amser!”

Roedd Fidel Castro, a oedd yn 90 oed, wedi rhoi’r gorau i fod yn arlywydd 10 mlynedd yn ôl yn dilyn salwch difrifol.

Roedd wedi bod mewn grym yn Cuba ers iddo arwain chwyldro llwyddiannus yn erbyn yr unben Fulgencio Batista yn 1959.

Gelyn yr Unol Daleithiau

Fyth oddi ar hynny, fe fu Fidel Castro yn ddraenen yn ystlys llywodraeth Unol Daleithiau America, yn enwedig ym mlynyddoedd y rhyfel oer, pryd y bu sawl ymgais i’w ladd gan wasanaethau cudd y wlad.

Llwyddodd i ddal gafael mewn grym er gwaethaf gwaharddiad masnach llym gan America, a thlodi cynyddol ers dymchweliad yr Undeb Sofietaidd.

Wrth i’w frawd gychwyn meithrin gwell perthynas â’r Unol Daleithiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, daliodd Fidel Castro i alw ar ei wlad i gadw at ei delfrydau sosialaidd.