Mosgo
Mae un o weinidogion Rwsia wedi’i ddal yn dilyn honiadau am lwgrwobrwyo gwerth £1.6 miliwn.

Mewn datganiad fore Mawrth, mae Pwyllgor Ymchwilio Rwsia wedi dweud fod y Gweinidog Datblygu Economi, Alexei Ulyukayev, wedi’i gadw yn y ddalfa nos Lun.

Mae honiadau ar led ei fod wedi derbyn cil-dwrn gwerth £1.6 miliwn mewn twyll a osodwyd gan yr FSB (Gwasanaeth Diogelwch Ffederal) sy’n asiantaeth olynydd i’r KGB.

Yn ôl yr ymchwilwyr, fe wnaeth Alexei Ulyukayev dderbyn y cil-dwrn er mwyn caniatáu i’r cwmni olew Rosneft, a reolir gan y wladwriaeth, i gymryd rhan mewn rhoi cynnig ar brynu cwmni olew arall.

Roedd y Gweinidog wedi gwrthod cais yn flaenorol gan fynnu y byddai’n anghywir i gwmni a reolir gan y wladwriaeth gymryd rhan mewn ymgyrch preifateiddio.

Mae Alexei Ulyukayev wedi bod yn Weinidog Datblygu’r Economi ers 2013 ac wedi gweithio fel dirprwy weinidog am sawl blwyddyn.