Tirlithriad ar ffordd yn Kaikoura, Seland Newydd wedi'r daeargryn Llun:SNPA / David Alexander
Mae ymgyrch wedi dechrau i achub cannoedd o dwristiaid a thrigolion sydd wedi’u dal yn nhref glan môr Kaikoura yn dilyn daeargryn nerthol yn Seland Newydd ddydd Sul.

Mae dau o bobol wedi marw a nifer wedi’u hanafu yn dilyn y ddaeargryn a oedd yn mesur 7.8 a darodd Ynys y De yn gynnar fore Sul gan achosi tswnami bychan hefyd.

Fe wnaeth Prif Weinidog y wlad, John Key, hedfan mewn hofrennydd ddydd Llun dros Kaikoura, sy’n gartref i 2,000 o drigolion ac yn atynfa i dwristiaid, gan ei ddisgrifio fel “trychineb llwyr.”

Yn ôl awdurdodau’r wlad fe allai’r ymgyrch achub gymryd rhai diwrnodau, ac os bydd angen gallent ddefnyddio awyren cludiant milwrol C-130 i ollwng bwyd, dŵr, tanwydd a nwyddau eraill i’r dref.

Eisoes, mae 5 tunnell o nwyddau wedi cyrraedd yno o Christchurch.

Yn ogystal, mae nifer o adeiladau ym mhrif ddinas y wlad, Wellington, wedi cael eu gwacau heddiw  a’r strydoedd wedi cau o ganlyniad i bryderon fod adeilad naw llawr mewn perygl o ddymchwel.