Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dechrau penodi ei staff ei hun i’r Tŷ Gwyn.

Mae olynydd Barack Obama wedi penodi Steve Bannon yn brif strategydd a chynghorydd, a Reince Priebus yn bennaeth staff.

Cefndir yn y cyfryngau sydd gan Bannon, un o swyddogion cwmni Breitbart, tra bod Priebus yn un o benaethiaid y Gweriniaethwyr.

Roedd Trump wedi ystyried penodi Bannon yn bennaeth staff, ac mae disgwyl iddo gael lle blaenllaw yng ngweinyddiaeth yr Arlywydd newydd.

Roedd yn flaenllaw yn ystod ymgyrch arlywyddol Trump, gyda’i gwmni Breitbart yn ei hybu fel ymgeisydd gwrth-sefydliadol.

Mae Priebus yn un o gynghreiriaid Llefarydd y Tŷ, Paul Ryan, y ddau ohonyn nhw’n hanu o Wisconsin.

‘Arweinwyr cymwys iawn’ 

Dywedodd Priebus mewn datganiad: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r darpar Arlywydd am y cyfle hwn i’w wasanaethau a’r genedl hon wrth i ni weithio i greu economi sy’n gweithio i bawb, diogelu ein ffiniau, diwygio a disodli Obamacare a dinistrio brawychiaeth Islamaidd radical.”

Dywedodd Trump: “Mae Steve a Reince yn arweinwyr cymwys iawn sy’n cydweithio’n dda yn ein hymgyrch ac a’n harweiniodd ni i fuddugoliaeth hanesyddol.

“Nawr bydd gen i’r ddau ohonyn nhw gyda fi yn y Tŷ Gwyn wrth i ni gydweithio i wneud America’n fawr unwaith eto.”

Ond does gan y naill na’r llall brofiad o lunio polisïau, un o brif ddyletswyddau penaethiaid staff yn enwedig, ac mae lle i gredu bod plant Trump, sy’n ei gynghori, wedi mynegi pryder am benodi Priebus i’w swydd.

Mae cwmni Breitbart Bannon wedi cael enw drwg am wthio agenda sy’n fanteisiol i bobol â chroen gwyn ac sy’n gwrthwynebu amlddiwylliannedd.

Dywed Trump na fydd e’n ennill ei gyflog o 400,000 o ddoleri’r flwyddyn, ond yn hytrach un ddoler yn unig fydd ei gyflog.

Mae’r protestiadau yn ei erbyn yn parhau.