Fe fydd y darpar-Arlywydd, Donald Trump, yn cyfarfod Barack Obama heddiw i drafod sut y bydd y broses o drosglwyddo grym yn digwydd… ac mae gyda galwad ffôn â Phrif Weinidog Prydain hefyd ar yr agenda.

Fe fydd sylwebyddion hefyd yn edrych yn fanwl ar sgwrs gynta’ Trump gyda Vladimir Putin, arlywydd Rwsia, wedi i’r ddau yn y gorffennol ganmol ei gilydd. Mae honiadau yn y wasg fod Donald Trump wedi cyfarfod Putin o’r blaen ond mae’n gwadu hynny.

Fel rhan o’r broses trosglwyddo grym, fe fydd briffiau dyddiol Barack Obama hefyd ar gael i Donald Trump o heddiw ymlaen.

Theresa May 

Mae 1o Stryd Downing wedi cadarnhau bod Prif Weinidog Prydain yn paratoi am alwad ffôn gan Donald Trump wrth i bennod newydd agor yn y berthynas rhwng Prydain a’r Unol Daleithau.

Roedd Theresa May yn awyddus i beidio rhoi ei sêl bendith i’r un o’r ymgeiswyr yn ystod y frwydr etholiadol, ond fe gondemniodd fel un “anghywir” fwriad Donald Trump i wahardd Mwslimiaid rhag cael mynediad i’r Unol Daleithau.

Swyddi yn y weinyddiaeth newydd

Mae disgwyl y bydd cyn-Faer Efrog Newydd, Rudy Giuliani, a oedd yn flaenllaw yn ymgyrch Donald Trump, yn cael swydd amlwg yn nhîm yr Arlywydd newydd; ynghyd â chyn-Lefarydd Ty’r Cynrychiolwyr, Newt Gingrich, a Llywodraethwr New Jersey, Chris Christie.

Rhybuddio rhag “ynysu” America 

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Madeleine Albright wedi rhybuddio Donald Trump rhag ynysu’r Unol Daleithau oddi wrth gweddill y byd.

Wrth siarad ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, fe ddywedodd Madeleine Albright nad ydi hi’n credu y bydd Donald Trump yn dod a chyngres NATO i ben, er iddo fygwth hynny yn ystod ei ymgyrch.

“Dw i’n meddwl ei fod yn beryglus iawn i’r Unol Daleithau ddychwelyd y tu hwnt i furiau,” meddai. “Fy ngobaith i yw, pan fydd yn cael briffiau cudd-wybodaeth llawn yn yr Oval Office ac yn gwrando ar bobol gyda chefndir mewn polisi tramor, fe fydd wedyn yn deall fod y datganiadau a wnaeth yn ystod yr ymgyrch yn beryglus i’r Unol Daleithau.

“Fe fydd yn rhaid inni gydweithio gydag eraill.

“Mae Donald Trump yn ddyn doeth, ac mae’n ddigon doeth i amsugno barn pobol eraill.”