Gwenfair Vaughan sy'n byw yn Efrog Newydd Llun: Cyfrif Twitter Gwenfair Vaughan
“Mae ’na bendant nerfusrwydd yma,” meddai dynes o Fethesda, sy’n byw yn Efrog Newydd, wrth Golwg360 wrth i bobl yn yr Unol Daleithiau fwrw eu pleidlais heddiw.

Mae Gwenfair Vaughan wedi byw yn Efrog Newydd ers deuddeg mlynedd lle mae’n gweithio fel actores.

Esboniodd fod Efrog Newydd yn draddodiadol, “fel dinas a thalaith wedi pleidleisio mewn etholaeth genedlaethol am ddemocrat, mae bob amser yn las…

“Ond beth sy’n ddiddorol y tro hwn, wrth gwrs, yw bod Hillary Clinton a Donald Trump yn dod o dalaith Efrog Newydd eu dau,” meddai wedyn.

‘Dim enw da’

 

Er hyn, yn ôl Gwenfair Vaughan, “does gan Donald Trump ddim enw da yn y ddinas yma o gwbl.”

“Dw i wedi clywed am Weriniaethwyr traddodiadol sydd wedi mynd allan yn erbyn Trump achos mae o’n eithafol a ddim yn sefyll am eu syniadaeth. Mae pobol yn teimlo’n nerfus dros ddyfodol eu gwlad,” meddai.

Presenoldeb yr heddlu

 

Esboniodd na fydd ganddi hi bleidlais yn yr etholiad, ond ei bod wedi sylwi ar giwiau yn ymgasglu y tu allan i ganolfannau pleidleisio’r ddinas heddiw.

Mae presenoldeb yr heddlu wedi cynyddu ers y penwythnos, meddai, gyda mwy na 5,000 o swyddogion ar ddyletswydd yno heddiw (dydd Mawrth).

Dywedodd iddi fynd i farathon blynyddol y ddinas dros y penwythnos, sef y TCS, gafodd ei gynnal ddydd Sul, Tachwedd 6.

“Byddaf i’n mynd i’r marathon bob blwyddyn i gefnogi, mae’n ddiwrnod hyfryd lle mae’r gymuned yn dod at ei gilydd i gefnogi, ond dydw i erioed wedi gweld gymaint o blismyn yno, oedan nhw i’w gweld bob ychydig o lathenni.”

Bydd y blychau pleidleisio yn cau yn yr Unol Daleithiau am 8yh nos Fawrth (amser lleol), ac fe allwch ddilyn y datblygiadau ar flog byw Golwg360.