Hillary Clinton a Donald Trump mewn dadl deledu fis diwethaf, Llun: PA
Mae Donald Trump yn honni bod yr etholiad i ddewis yr Arlywydd nesaf wedi’i drefnu i ffafrio ei wrthwynebydd ar ôl i’r FBI gyhoeddi nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Hillary Clinton wedi torri’r gyfraith.

Dyma’r diwrnod olaf o ymgyrchu i’r ddau ymgeisydd yn y ras am y Tŷ Gwyn.

Deuddydd cyn yr etholiad ddydd Mawrth fe gyhoeddodd cyfarwyddwr yr FBI James Comey, na ddylai ymgeisydd y Democratiaid wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol ynglŷn â’r modd yr oedd hi wedi delio gyda gwybodaeth gyfrinachol mewn e-byst pan oedd hi’n Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau.

Mae cyhoeddiad yr FBI wedi bod yn rhyddhad mawr i ymgyrch Clinton ar ôl i’r ymchwiliad fygwth ei lle fel y ceffyl blaen yn y ras.