Fe fu’n rhaid i swyddogion diogelwch gludo Donald Trump oddi ar lwyfan yn ystod rali yn Nevada neithiwr ar ôl i ddyn yn y gynulleidfa weiddi “Dryll!”.

Roedd Trump yn siarad pan ddechreuodd ffrwgwd ger y llwyfan, a rhedodd dau swyddog diogelwch at ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr.

Ond ddaethon nhw ddim o hyd i’r dryll honedig, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Dychwelodd Trump i’r llwyfan yn ddiweddarach gan ddiolch i’r swyddogion diogelwch, ac fe ddywedodd na “fyddwn ni byth yn cael ein stopio”.

Er bod y cwmni diogelwch yn mynnu bod pawb wedi cael eu sgrinio cyn y digwyddiad, mae mab Trump yn dweud bod y digwyddiad yn ymgais i ladd ei dad.

Mae rhai o gefnogwyr Trump wedi rhoi’r bai am y digwyddiad ar y cyfryngau am geisio ennyn casineb tuag ato.

Mae o leiaf 41 miliwn o bobol wedi pleidleisio eisoes, sy’n fwy na’r nifer a bleidleisiodd yn ystod yr un cyfnod yn 2012.

Dydd Mawrth yw diwrnod swyddogol yr etholiad.