Mae cyhoeddiad yr FBI yn America ei fod newydd ddod o hyd i negeseuon ebost newydd a allai fod yn bwysig o ran yr ymchwiliad i’w chyfrifiadur gwaith, wedi codi mwy o gwestiynau nag o atebion.

Mae cyfarwyddwr yr FBI, James Comey, wedi dweud mewn llythyr at aelodau’r Gynghres ddydd Gwener, fod ei sefydliad wedi dod o hyd i’r negeseuon newydd tra’r oedden nhw’n ymchwilio i achos arall, sydd â dim oll i’w wneud â’r ymchwiliad gwreiddiol.

Ond mae ei bedair tudalen o ddatganiad, sydd mewn mannau’n amhendant iawn, wedi codi eto y cwestiwn sydd wedi bod yn poeni Hillary Clinton drwy gydol ei hymgyrch i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau… ac mae’n sicr yn mynd i bara dros y deg diwrnod sy’n weddill cyn y bydd pobol America yn bwrw’u pleidleisiau.

Y cwestiynau sy’n dod i’r meddwl… 

– O ble daeth y negeseuon diweddara’ hyn?

– Pam eu bod nhw’n dod i’r wyneb rwan, 10 niwrnod cyn yr etholiad?

– Pa fath o effaith gaiff hyn, os o gwbwl, ar y ras rhwng Clinton a Trump i fod yn Arlywydd?

– A ydi hi’n arferol i’r FBI wneud datganiadau fel hyn?

– Beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun yn cael ei gyhuddo o drosedd, cyn yr etholiad?