Park Geun-hye, arlywydd De Corea
Mae arlywydd De Corea, Park Geun-hye, wedi gorchymyn i brif ysgrifenyddion y wlad ymddiswyddo, wedi honiadau ei bod hi wedi caniatau i hen ffrind a merch i arweinydd cwlt crefyddol, ymyrryd ym materion gwladol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan swyddfa Park Geun-hye cyn i filoedd o bobol droi allan i brotestio’n erbyn y llywodraeth yn ninas Seoul heddiw. Mae’r sgandal hon yn debygol o wneud ei sefyllfa hithau, fel arlywydd, yn un anodd iawn cyn etholiadau’r flwyddyn nesa’.

Mae rhai wedi bod yn pwyso ar iddi gael gwared â rhai aelodau o’i chabinet, wedi iddi hi ei hun gyfadde’ ar deledu nos Iau ei bod wedi arfer rhoi copïau o’i hareithiau i’w ffrind, Choi Soon-sil, i’w golygu.

Ond mae ei hymddiheuriad wedi denu mwy o feirniadu o’r ffordd y mae hi’n trin gwybodaeth gyfrinachol.

Mae un wrthblaid, Plaid Cyfiawnder, wedi galw ar iddi ymddiswyddo, ond mae’r wrthblaid fwya’, Plaid Minjoo, wedi dal yn ôl rhag gwneud hynny, rhag ofn iddo gael effaith negyddol ar etholiad y flwyddyn nesa’.