Mae dau ffrwydriad wedi lladd beth bynnag naw o bobol yn ninas Maiduguri yng ngogledd-ddwyrain Nigeria, a’r gred ydi mai mudiad Mwslimaidd eithafol Boko Haram oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.

Fe ffrwydrodd y ddyfais gynta’ pan geisiodd dau hunanfomiwr gael mynediad i wersyll lle’r oedd 16,000 o ffoaduriaid yn byw, tua chwech o’r gloch y bore.

Fe ddigwyddodd yr ail ffrwydriad hanner awr yn ddiweddarach, tua cilomedr i ffwrdd, pan chwythwyd tacsi tair olwyn a oedd yn cario o leia’ ddau o deithwyr, gyferbyd â chanolfan danwydd.