Fe fydd Rwsia yn dinistrio pob un o’i harfau cemegol erbyn diwedd y flwyddyn 2017, meddai swyddogion – flwyddyn ynghynt na’r disgwyl.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw mewn datganiad i asiantaethau newyddion, y bydd Rwsia yn cael gwared ar ei stoc o fomiau cemegol, a hynny erbyn dydd ola’ Rhagfyr 2017.

Mae Rwsia yn un o’r gwledydd sydd wedi arwyddo cytundeb arfau cemegol rhyngwladol, ac mae’r wlad eisoes wedi dinistrio 93% o’r arfau hynny.

Fe fu’n rhaid i Rwsia, dros y ddau ddegawd diwetha’, godi sawl ffatri er mwyn datgymalu’r arfau.