Pobol yn dianc rhag yr ymosodiad yn Nice Gorffennaf 14 (@harp_detectives a PA Wire)
Mae arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, mewn seremoni yn Nice heddiw i gofio 86 o bobl a gafodd eu lladd mewn ymosodiad ym mis Gorffennaf.
Roedd eithafwr Islamaidd wedi gyrru ei lori trwy ganol y torfeydd a oedd yn gwylio tân gwyllt dathliadau diwrnod Bastille yn y ddinas.
Mae’r seremoni ar ben bryn uwchben y Promenade des Anglais, ym mhresenoldeb teuluoedd, rhai gafodd eu hanafu, cynrychiolwyr crefyddol, arweinwyr gwleidyddol Ffrainc ac awdurdodau Nice.
Cafodd enwau’r 86 a gafodd eu lladd eu darllen allan a chafodd 86 o rosod gwyn eu gosod ar ganol y sgwar y seremoni.
Ymhlith y galarwyr roedd Cindy Pellegrini, a gollodd chwe aelod o’i theulu yn yr ymosodiad ar 14 Gorffennaf.
“Ni ellir diffinio ein tristwch,” meddai, wrth gofio arwyddair Ffrainc o ryddid, cydraddoldeb a brawdgarwch. “Sut mae byw gyda’r anafiadau corfforol? Sut mae byw gyda’r anafiadau moesol?”