Mae’r Unol Daleithiau wedi dechrau cyfri’r gost ar ôl i Gorwynt Matthew ddechrau tawelu ar ei ffordd i fyny arfordir dwyreiniol y wlad.

Mae’r corwynt sydd wedi gwanhau eisoes wedi taro Georgia, De a Gogledd Carolina.

Mae o leiaf 10 o bobol wedi cael eu lladd yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dyn 68 oed a gafodd ei daro gan goed y tu allan i’w gartref.

Mae bron i 500 o bobol wedi cael eu lladd yn Haiti, lle mae tridiau o alaru wedi dechrau.

Roedd mwy na throedfedd o law yng Ngogledd Carolina erbyn nos Sadwrn, gan achosi llifogydd sydd wedi rhoi bywydau pobol mewn perygl.

Mae’r gwaith glanhau eisoes wedi dechrau mewn rhai taleithiau, a nifer o fusnesau wedi gallu ail-agor, gan gynnwys parciau antur yn Orlando yn Florida.

Ar ôl iddo fethu ag achosi llawer o ddifrod yn y Carolinas, symudodd y corwynt i’r Bahamas a Florida heb achosi fawr o ddifrod yn y pen draw.

Mae’r gwyntoedd wedi gostegu i 75 milltir yr awr mewn nifer o ardaloedd bellach.