Mae dwsinau o bobol wedi cael eu sathru i farwolaeth yn ystod dathliad crefyddol yn Ethiopia.
Roedd y dathliad wedi troi’n brotest yn erbyn llywodraeth y wlad, ac fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio bwledi rwber a nwy ddagrau i dawelu’r dorf.
Roedd oddeutu dwy filiwn o bobol yn y digwyddiad Irrecha yn Bishoftu ger y brifddinas Addis Ababa.
Mae protestiadau wedi’u cynnal yn gyson yn rhanbarth Oromia dros y misoedd diwethaf.
Ond mae’r llywodraeth wedi rhoi’r bai ar y protestwyr am y marwolaethau diweddaraf.
Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi mynegi pryder am ddulliau llywodraeth y wlad o atal protestiadau.