Roedd y dyn sy’n cael ei amau o saethu pump o bobol yn farw mewn canolfan siopa yn Washington “fel sombi” ar ôl iddo gael ei arestio, yn ôl yr heddlu.

Cafodd Arcan Cetin, 20, ei weld gan yr heddlu yn ardal Oak Harbour y ddinas.

Doedd ganddo fe ddim arf yn ei feddiant pan gafodd ei arestio, yn ôl y Lefftenant Mike Hawley.

“Ddywedodd e ddim byd. Roedd e fel sombi,” meddai.

Cafodd pedair o fenywod ac un dyn eu lladd yn y Cascade Mall yn ardal Burlington nos Wener, ac fe wnaeth y sawl oedd yn gyfrifol ffoi oddi yno.

Fe fu’r heddlu’n chwilio amdano am fwy nag 20 awr, a chafodd reiffl ei ddarganfod ger safle’r digwyddiad.

Dydy’r heddlu ddim yn gwybod eto pam y digwyddodd y gyflafan.

Cafodd gwylnos ei chynnal nos Sadwrn.