Gorymdeithwyr yn Charlotte (Llun: PA)
Mae protestwyr yng Ngogledd Carolina wedi bod yn gwrthdystio’n dawel wedi i deulu dyn du a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu ryddhau fideo sy’n dangos yr hyn a arweiniodd at ei farwolaeth.

Mae gorymdaith trwy ardal fusnes Charlotte yn dynodi pedwaredd noson o brotestiadau ers saethu Keith Lamont Scott yn y ddinas yn gynharach yr wythnos hon.

Wedi iddi nosi nos Wener, fe ddaeth dwsinau o bobol i’r strydoedd i annog yr heddlu i ryddhau lluniau camera fideo a fyddai’n dangos yr hyn ddigwyddodd yn glir.

Fe fu’r heddlu’n dweud fod Keith Scott yn cario gwn, ond mae tystion yn mynnu mai dim ond llyfr oedd yn ei law.