Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd a thirlithriadau ar ynys Java yn Indonesia, ac mae beth bynnag 19 o bentrefwyr wedi’u lladd.

Mae naw o bobol yn dal i fod ar goll yn ardaloedd Garut a Sumedang yng ngorllewin Java. Yr ardal i gael ei tharo waetha’ ydi Garut, lle lladdwyd 16 o bobol wedi i ddwy afon orlifo. Ymhlith y meirw roedd babi wyth mis oed, pump o blant, a saith dynes.

Mae tua 1,000 o bentrefwyr eraill wedi’u cludo oddi ar yr ynys, o 100 o bentrefi, ac wedi’u rhoi i gysgodi mewn pebyll a barics milwrol.