Mae heddlu yn Mongolia wedi arestio dyn ar amheuaeth o ladd ymwelydd o wledydd Prydain.

Fe gafodd y dyn 31 oed, sy’n cael ei nabod wrth y llythyren ‘T’, ei ganfod gyda thua £300 o arian lleol yn ei feddiant, ynghyd â phasbort Steve Nash, 53, a deithiodd i Mongolia fel paragleidiwr.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn dweud fod Steve Nash, sy’n hanu o Swydd Caer, wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei frest.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff ddydd Sul yn rhanbarth Arkhangai yng nghanolbarth Mongolia.