Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Mae Hillary Clinton wedi gorfod canslo ymweliad a Chaliffornia ar ôl cael ei tharo’n wael yn ystod gwasanaeth coffa i gofio’r rhai fu farw yn ymosodiadau brawychol Medi 11 yn Efrog Newydd.

Bu’n rhaid i ymgeisydd y Democratiaid yn y ras i fod yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, adael y seremoni’n gynnar fore dydd Sul. Cafodd ei gweld yn cael cymorth tri o bobl cyn cael ei helpu i mewn i fan.

Rai oriau’n ddiweddarach, fe ddatgelodd ei hymgyrch ei bod wedi cael diagnosis o niwmonia ddydd Gwener ac wedi’i chynghori i orffwys.

Dywedodd ei meddyg Dr Lisa R Bardack ei bod yn “gwella” yn ei chartref ac yn cael triniaeth wrthfiotig.

Mae ei gwrthwynebydd yn y ras arlywyddol, y Gweriniaethwr Donald Trump wedi bod yn codi cwestiynau am gyflwr iechyd Hillary Clinton ers misoedd, gan ddadlau nad oes ganddi’r egni sydd ei angen i fod yn arlywydd.