Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Oriau’n unig ar ôl ei ymweliad â’r Arlywydd Enrique Pena Nieto, mae Donald Trump yn dal i fynnu mai Mecsico fydd yn talu am y wal mae’n bwriadu ei adeiladu ar hyd y ffin â’r Unol Daleithiau.
Ar ôl dychwelyd o Fecsico, bu ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras i fod yn arlywydd nesaf America yn amlinellu polisïau llym ar fewnfudo mewn araith yn ninas Phoenix, Arizona.
Ddywedodd Donald Trump y bydd Mecsico yn talu am y wal “100%”.
“Dydyn nhw ddim yn gwybod hynny eto, ond maen nhw’n mynd i dalu amdani,” ychwanegodd.
Dywedodd y biliwnydd nad oedd wedi trafod pwy fyddai’n talu am y wal gydag Arlywydd Mecsico, Enrique Pena Nieto.
Ond fe wnaeth Enrique Pena Nieto drydar ar ôl cyfarfod y ddau yn dweud ei fod “wedi ei gwneud hi’n glir ar ddechrau’r cyfarfod na fyddai Mecsico yn talu am y wal.”
Byddai codi wal ar hyd y ffin rhwng America a Mecsico, sy’n 2,000 o filltiroedd o hyd, yn costio biliynau o ddoleri.
Araith ar fewnfudo
Yn ei araith yn Phoenix, fe wnaeth Donald Trump roi addewid i anfon miliynau o bobol, sy’n byw yn America yn anghyfreithlon, o’r wlad ac y byddai’n cyfyngu nifer y mewnfudwyr sy’n dod i’r wlad.
Cafodd ymateb da yn Arizona, yn wahanol i’w ymweliad â Mecsico, a arweiniodd at brotestiadau.
Roedd llawer yn anhapus hefyd â’r Arlywydd Enrique Pena Nieto a llawer yn ei lambastio am beidio â mynnu bod Trump yn ymddiheuro am alw mewnfudwyr o Fecsico yn dreiswyr ac yn droseddwyr.