Baghdad Llun: PA
Mae adroddiadau bod person o Brydain wedi’i ladd yn Irac wrth i gwmni geisio gwaredu â ffrwydron y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd y llysgenhadaeth Brydeinig yn Baghdad eu bod yn “ymwybodol” am ddinesydd o Brydain a gafodd ei ladd yn Ramadi yng nghanol y wlad.

Ar hyn o bryd, mae cwmni o America yn gweithio i glirio’r ffrwydron mewn ardal a adawyd gan y Wladwriaeth Islamaidd pan gafodd y ddinas ei hadennill ym mis Rhagfyr.