Mae ymladdwyr tân wedi bod yn annog pobol yng Nghaliffornia i symud o’i tai, wrth i dân losgi allan o reolaeth yn agos iawn i’w cartrefi.
Fe gynheuodd y fflamau ddydd Mawrth mewn rhan o’r dalaith sydd wedi’i gadael yn grimp sych yn dilyn pum mlynedd o sychder. O fewn diwrnod, roedd y tân wedi lledu dros 47 milltir sgwâr.
Mae 1,300 o ymladdwyr bellach yn ceisio cael y fflamau dan reolaeth, gan ganolbwyntio ar gymunedau Lytle Creek, Wrightwood a Phelan.
Mae mwy na 34,000 o gartrefi o fewn yr ardal sy’n brysur gael ei gwagio, a thua 82,000 o bobol yn cael eu cynghori i symud o’u tai.