Mae tri o bobol wedi marw a thri arall wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch cyflym a llong ymwelwyr ger ynys Aegina, Groeg.

Mae gwylwyr y glannau wrthi’n chwilio’r ardal ar hyn o bryd, wedi i’r llong oedd yn cario rhwng 15 a 20 o dwristiaid o Aegina ger Athen i’r traeth ar ynys Moni, fynd benben â chwch cyflym.

Mae’r awdurdodau lleol yn dweud fod nifer o bobol wedi’u hachub o’r môr, a bod y chwilio’n parhau am fwy o bobol.