Mae tri o bobol ddiniwed – mam a’i dau blentyn – wedi marw mewn ymosodiad nwy clorîn ar un ardal o ddinas Aleppo yn Syria.

Yn ôl llygad dystion, gollyngwyd pedair bom baril gan hofrennydd ar ardal Zabadieh neithiwr, ac roedd un o’r bomiau yn cynnwys clorîn.

Mae mudiadau sy’n adrodd ar faterion yn ymwneud â hawliau dynol yn Syria, wedi adrodd am fomiau baril yn cael eu gollwng yn yr ardal. Maen nhw hefyd yn dweud fod nifer o bobol yno yn cael trafferth anadlu ar ôl i’r bomiau ddisgyn.