Recep Tayyip Erdogan
Mae datganiad newydd gan lywodraeth Twrci yn cyflwyno newidiadau mawr i luoedd arfog y wlad, wedi’r ‘coup’ honedig diweddar.

Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yn rhoi awdurdod i’r arlywydd a’r prif weinidog roi gorchmynion uniongyrchol i uwch swyddogion y fyddin, y llu awyr a’r llynges.

Mae’r cyhoeddiad diweddara’ hwn hefyd yn cau ysgolion milwrol, yn sefydlu prifysgol amddiffyn newydd, yn rhoi uwch swyddogion o dan reolaeth uniongyrchol y weinyddiaeth amddiffyn, ac yn diswyddo 1,389 o weithwyr.

Mae’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan yn dweud bod angen gwneud hyn mewn ymateb i’r ‘coup’ yn y wlad ar Orffennaf 15.