Llun: PA
Mae o leiaf 14 o bobol wedi’u lladd ar ôl i hunan-fomiwr yrru car wedi’i lwytho â ffrwydron at siecbwynt y tu allan i dre Shïaidd i’r gogledd o Baghdad heddiw.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond y gred yw mai’r grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS), sy’n gyfrifol.

Ers y llynedd, mae IS wedi colli llawer o dir yn Irac, yn fwya’ diweddar yn Fallujah, lle cafodd y grŵp ei hel o’r ddinas gan fyddin Irac ar ôl meddiannu’r ddinas am dros ddwy flynedd.

Mae’r eithafwyr wedi parhau i gynnal ymosodiadau yn Baghdad ac o amgylch y ddinas, yn ogystal ag ymosodiadau mwy cymhleth mewn gwledydd eraill.

Digwyddodd yr ymosodiad ddydd Llun ar fynedfa brysur dref Khalis, tua 50 milltir i’r gogledd o brifddinas Irac, Baghdad.

Cafodd wyth plismon a chwe pherson cyffredin eu lladd, ac mae hyd at 41 o bobol eraill wedi cael eu hanafu, yn ôl swyddogion.

Cafodd bron i 20 o geir oedd mewn ciw ger y siecbwynt eu difrodi yn y ffrwydrad.

Ymosodiad arall

Dydd Sul, fe wnaeth IS hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad yn Baghdad a laddodd 14 o bobol ac anafu 31.

Mae IS yn dal i reoli ardaloedd helaeth yng ngogledd a gorllewin Irac, gan gynnwys ail ddinas fwyaf y wlad, Mosul.

Mewn ymosodiad ar wahân heddiw hefyd, mae tri bom mewn tri lleoliad gwahanol yn y brifddinas, Baghdad, wedi lladd naw o bobol ac wedi anafu 26.