Mae “nifer” o bobol wedi’u lladd a’u hanafu mewn ffrwydriad yn ystod gorymdaith brotest ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul.

Bwriad y protestwyr oedd mynnu y dylai cebl trydan newydd sbon gael ei dargyfeirio trwy eu hardaloedd tlawd nhw o’r ddinas.

Mae un o drefnwyr yr orymdaith, Laila Mohammadi, wedi bod yn siarad ar y cyfryngau, yn dweud sut y cyrhaeddodd hi’r lle wedi’r ffrwydriad a gweld “nifer wedi’u lladd a’u hanafu”. Oddi ar hynny, mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod y nifer hwnnw yn beth bynnag 61.

Mae Seddiq Sediqqi, llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Materion Cartref, wedi dweud fod yr heddlu yn gweithio’n galed er mwyn cadarnhau’r adroddiadau..