Mae dynion arfog wedi lladd un o gantorion mwyaf enwog Pacistan yn ninas Karachi.

Cafodd Amjad Sabri ei saethu sawl gwaith ddydd Mercher tra’n gyrru yn ei gar. Cafodd ei frawd, a oedd hefyd yn teithio yn y car, ei anafu yn yr ymosodiad.

Roedd Sabri, a’i ddiweddar dad Ghulam Farid Sabri yn gantorion qawwali adnabyddus, math o ganu sydd a’i wreiddiau mewn Swffiaeth. Mae eithafwyr Islamaidd yn gwrthod traddodiadau Swffi ac wedi targedu Swffiaid yn y gorffennol.

Mae ymosodiadau treisgar yn gyffredin yn Karachi, gydag ymosodiadau’n cael eu cynnal gan filwriaethwyr Islamaidd, gwrthryfelwyr ethnig, gangiau a phleidiau gwleidyddol.

Ddydd Mawrth, roedd dynion arfog wedi lladd aelod o leiafrif crefyddol Ahmadi, a chafodd mab i farnwr ei gipio.

Nid oes unrhyw grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.