Mae dau deigr wedi dianc o’u caets mewn canolfan warchod bywyd gwyllt yn Yr Iseldiroedd, ac maen nhw wedi’u gweld yn prowla o gwmpas y parc yn Ffrisland.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn yr ardal yn dweud fod swyddogion a milfeddyg wedi bod yn dilyn y creaduriaid, a’u bod yn ceisio defnyddio cyffuriau i’w tawelu er mwyn gallu eu hebrwng yn eu holau i’w cartrefi.

Yr ofn mwya’ yw bod ffensys allanol y parc ddim yn hollol ddiogel, ac y gallai’r cathod mawr ddianc trwyddyn nhw. “Fe fyddai hynny’n achosi peryg i bobol gerllaw,” meddai’r heddlu.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio trigolion pentre’ bychan Olderberkoop, 87 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Amsterdam, i fod ar eu gwyliadwraeth.