Mae arbenigwyr iechyd wedi dweud bod digon o dystiolaeth bellach i gadarnhau fod y firws Zika yn gallu achosi i fabanod gael eu geni â nam ar yr ymennydd ynghyd â phennau bach.

“Does dim amheuaeth bellach fod Zika yn achosi microcephaly,” meddai Dr Thomas Frieden Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) yn yr Unol Daleithiau.

Mae microcephaly yn golygu bod babanod yn cael eu geni â phennau anarferol o fach.

Daw’r cyhoeddiad wedi i arbenigwyr iechyd ym Mrasil ganfod tystiolaeth o nam “difrifol iawn” ar yr ymennydd mewn babanod – gan arwain at ymchwiliad i ferched beichiog sy’n cael eu heintio â Zika a’r cysylltiad rhwng eu babanod sy’n datblygu microcephaly.

Cafodd 23 o blant oedd â’r cyflwr yn nhalaith Pernambuco, Brasil eu harchwilio rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2015 fel rhan o’r astudiaeth.

‘Argyfwng iechyd’                         

Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd y dylai’r firws Zika gael ei drin fel argyfwng iechyd rhyngwladol.

Mae’r firws, sy’n cael ei ymledu gan fosgitos wedi effeithio fwyaf ar bobol yng ngwledydd y Caribî, De Ddwyrain Asia ynghyd â Chanol a De America.

Mae tua 12 o deithwyr o Brydain wedi cael eu heintio gan y firws hefyd.

Dyw’r rhan fwyaf ddim yn cael symptomau, ond mae rhai yn dioddef o symptomau tebyg i’r ffliw ynghyd â brech ar y croen.