Mae beth bynnag 22 o wrthryfelwyr al-Qaida wedi’u lladd yn ystod ymosodiad o’r awyr yng ngogledd Syria.

Yn ol Arsyllfa Hawliau Dynol Syria, awyrennau yn perthyn i Syria neu Rwsia oedd yn gyfrifol am dargedu’r ardal lle credir bod pencadlys lleol Jund al-Aqsa, grwp sy’n brwydro ochr yn ochr â Nusra Front, sef cangen Syria o al-Qaida, yn hwyr nos Sul.

Mae gwasaneth newyddion yn perthyn i’r Hezbollah yn dweud i’r ymosodiad ladd llefarydd swyddogol Nusra Front, Radwan Namous, ynghyd â’i fab.

Mae Hezbollah wedi anfon miloedd o ymladdwyr i gwffio ysgwydd ac ysgwydd gyda lluoedd llywodraeth Syria yn y rhyfel cartref.