Maes awyr Brwsel ar ôl y ffrwydrad fore Mawrth (Alun: PA)
Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiadau gan hunan-fomwyr ym Mrwsel.

Cafodd o leiaf 32 eu lladd a 270 eu hanafu wrth i fomiau ffrwydro yn y maes awyr a gorsaf Metro fore Mawrth.

Fe fu farw tri o’r ymosodwyr yn y ffrwydradau, ac mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am eraill a oedd yn gyfrifol.

Dywed erlynwyr yng ngwlad Belg i’r arestio ddigwydd mewn cyrchoedd yng nghanol Brwsel ac ym maestrefi Jette a Schaerbeek, lle cafodd yr heddlu hyd i bentwr mawr o ffrwydron a deunyddiau gwneud bomiau yn gynharach yr wythnos yma.

Dywedodd rhai o drigolion Schaerbeek iddyn nhw glywed sŵn ffrwydro yn ystod y cyrchoedd yn y nos.

Amau cynllwyn

Yn y cyfamser, mewn cyrch ar gyrion Paris gan heddlu Ffrainc, mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwyn i ymosod ar y wlad.

Dywed gweinidog mewnol Ffrainc, Bernard Cazeneuve, nad oes unrhyw gysylltiadau “ar hyn o bryd” rhwng y cynllwyn hwn a’r ymosodiadau ar Frwsel ac ar Paris ym mis Tachwedd.