Mae awyren o Dubai wedi plymio i’r ddaear wrth geisio glanio ger dinas Rostov-on-Don yn ne Rwsia. Mae pob un o’r 62 o bobol ar ei bwrdd, wedi’i ladd.

Roedd yr awyren Boeing 737-800 yn rhan o fflyd y cwmni FlyDubai, ac mae’r cwmni wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau mai wrth geisio glanio mewn gwyntoedd cryfion yr aeth ehediad FZ981 i drafferthion.

Mae ymchwiliad ar droed er mwyn ceisio deall pam a sut y digwyddodd y ddamwain.

Wedi iddi lanio, fe welwyd fflamau yn dod o gorff yr awyren, ac roedd y gwyntoedd ar y pryd, yn ol llygad dystion, yn ymylu ar fod yn gorwyntoedd.