Vladimir Putin, arlywydd Rwsia
Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia wedi cadarnhau fod awyrennau rhyfel y wlad yn fflïo ochr yn ochr ag awyrennau llywodraeth Syria, yn y cyrchoedd i geisio adennill dinas hynafol Palmyra oddi wrth y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae rhywle rhwng 20 a 25 ehediad y dydd yn digwydd, meddai’r Weinyddiaeth er mwyn cefnogi cyrch filwrol Syria – a hynny er bod yr Arlywydd Vladimir Putin wedi gorchymyn tynnu’n ol yr wythnos hon, yn unol â chytundeb gafwyd yn ninas Genefa.

Mae Rwsia hefyd yn honni bod byddin Syria wedi llwyddo i gipio’r ardal fynyddig ger Aleppo, a’i bod yn rhwystro pob llwybr i ddinas Palmyra.