Ymosodiad yn Ankara (Llun:PA)
Mae’r grŵp milwriaethus yn Nhwrci wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y bomio diweddaraf yn Ankara a laddodd o leiaf 37 o bobol ac anafu 125.
Ar eu gwefan dywedodd carfan TAK eu bod wedi ymosod ar y brifddinas er mwyn dial am weithredoedd y fyddin yn ardal Cwrdaidd o Dwrci, yn y de-ddwyrain.
Yn ôl datganiad y rebeliaid, ceisio targedu swyddogion yr heddlu oedd y bwriad, heb ladd yr un dinesydd.
Anhapus â’r llywodraeth
Fe wnaeth TAK, sy’n gangen o Blaid y Gweithwyr Cwrdaidd sydd wedi’i gwahardd, hawlio cyfrifoldeb dros achos o fomio arall yn y ddinas y mis diwethaf.
Mae’r brawychwyr yn anhapus â’r ffordd mae Llywodraeth Twrci yn trin Cwrdiaid yn y wlad.
Hyd yn hyn, mae dros 200 o bobol wedi marw mewn pum achos o fomio yn Nhwrci ers mis Gorffennaf, gyda naill ai’r rebeliaid Cwrdaidd neu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn cael y bai.