Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi rhybuddio y bydd rhaid i Rwsia “wynebu’r canlyniadau” os ydyn nhw’n parhau i hedfan awyrennau dros y wlad yn anghyfreithlon.
Daw’r datganiad yn dilyn adroddiadau bod awyren o Rwsia wedi hedfan dros y ffin yn anghyfreithlon ddydd Gwener.
Ddeufis yn ôl, cafodd un o awyrennau Rwsia ei saethu i lawr gan Dwrci, sydd wedi peryglu’r berthynas rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Erdogan mewn datganiad fod y digwyddiad diweddaraf yn “ymgais gan Rwsia i gynyddu’r argyfwng yn y rhanbarth”.
“Os yw Rwsia’n parhau i dorri hawliau sofran, bydd yn rhaid iddi wynebu’r canlyniadau.”
Mae Rwsia wedi gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, gan gyhuddo Twrci o gyhoeddi “propaganda di-sail”.