Mosgito
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dweud ei fod am gynnal cyfarfod brys ddydd Llun i benderfynu a ddylai’r achosion o firws Zika gael ei ddatgan yn argyfwng iechyd rhyngwladol.

Mewn cyfarfod arbennig dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y WHO, Dr Margaret Chan, fod y firws – sydd wedi ei gysylltu â namau geni a phroblemau niwrolegol mewn babis – yn ymledu’n gyflym.

Ychwanegodd er nad oes unrhyw dystiolaeth bendant bod Zika yn gyfrifol am y cynnydd yn nifer y babis sy’n cael eu geni gyda namau geni ym Mrasil, mae achos i bryderu.

Mae’r firws yn cael ei  ymledu gan fosgitos.

Cafodd yr argyfwng rhyngwladol diwethaf ei gyhoeddi gan y WHO yn 2014 pan fu farw mwy na 11,000 gan yr epidemig Ebola yng ngorllewin Affrica.