Mae dau gôr yn y gogledd wedi dod ynghyd i drefnu cyngerdd i godi arian ar gyfer pobol Wcráin ar ôl gweld lluniau trychinebus o’r rhyfel bob dydd.

Bydd y cyngerdd yng Nghadeirlan Bangor gyda Chôr y Penrhyn, Côr y Brythoniaid ac unawdwyr ar ddydd Sadwrn, Mawrth 4 am 7 o’r gloch, a bydd yr elw yn mynd i Apêl Wcráin.

Yn dilyn ymosodiad ar Wcraín gan Rwsia fis Chwefror y llynedd, roedd lluniau trychinebus i’w gweld yn ddyddiol ar y newyddion, gyda miloedd o ffoaduriaid yn gadael Wrcraín i fynd i wledydd eraill yn Ewrop er mwyn ceisio lloches.

Dechreuodd Pwyllgor Argyfyngau’r DEC gasglu arian i roi cymorth i’r rheini oedd yn ffoi o Wcraín, ond hefyd i roi cymorth ymarferol i’r trigolion hynny oedd am aros yn y wlad.

Penderfynodd aelodau Côr y Penrhyn eu bod nhw eisiau rhoi cyfraniad sylweddol i’r apêl, a dechreuodd y broses o drefnu cyngerdd i’r perwyl hwnw.

Mae’n flwyddyn ers i’r anghydfod gychwyn, ac mae’r galw am gymorth yr un mor bwysig ag erioed.

Mae bron i 3000 o ffoaduriaid y rhyfel yng Nghymru a nifer mawr yn byw yn ein ardal ni erbyn hyn, mawr obeithiwn y bydd rhai ohonynt yn y cyngerdd.

Bydd y corau’n perfformio rhai darnau ar y cyd, ac maen nhw’n gofyn am gefnogaeth y cyhoeddi i lenwi’r Gadeirlan, gyda lle i 350 o bobol yn y gynulleidfa.

Mae tocynnau ar werth ar wefan Neuadd Ogwen am £10.50 yr un.