Mae cangen o al-Qaida’s yn nwyrain Affrica wedi rhyddhau fideo recriwtio yn targedu pobol ifanc Fwslimaidd a chroenddu, ac mae’n cynnwys clip o’r ymgeisydd am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn galw am wahardd Mwslimiaid o’r wlad.

Mae’r fideo, sy’n para 51 munud, wedi’i rhyddhau gan grwp Shabab yn Somalia, ac mae’n portreadu’r Unol Daleithiau fel gwlad sy’n sefydliadol o hiliol yn erbyn pobol dduon a Mwslimiaid.

Mae’r fideo’n dweud mai Islam ydi’r ateb.

Mae’r dyfyniadau gan Donald Trump wedi’u cynnwys rhwng darnau o areithiau gan y clerigwr o Yemen, Anwar al-Awlaki, un o recriwtwyr amlyca’ al-Qaida sy’n siarad Saesneg.

Fe gafodd y fideo ei rhyddhau ar wefan gymdeithasol Twitter ddydd Gwener.