Mae gorsafoedd tren yn Munich wedi ailagor, ac mae trenau’n rhedeg eto, ond mae rhybudd ynglyn â’r posibilrwydd o ymosodiad terfysgol yn parhau mewn grym yn y ddinas.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae heddlu Munich yn dweud, “mae’r gorsafoedd ar agor, ond mae’r sefyllfa’n parhau’n ddifrifol”.

Toc cyn i’r ddinas ddathlu’r Flwyddyn Newydd neithiwr, roedd heddlu’r ddinas wedi gwagio’r brif orsaf drenau a gorsaf yn ardal Pasing. Y neges i’r rheiny oedd allan yn cael parti, oedd i osgoi ardaloedd poblog.

Mewn cynhadledd i’r wasg hwyr, fe ddaeth datganiad gan Weinidog Cartref Bafaria, Joachim Herrmann, yn cadarnhau fod “ffynhonnell gyfeillgar” i’r Almaen wedi rhybuddio y gallai rhwng 5 a 7 o hunanfomwyr fod yn cynllwynio i ymosod am hanner nos.