Problem gyda system reoli’r llyw ac ymateb y peilot a arweiniodd at ddamwain awyren AirAsia y llynedd a laddodd pob un o’r 162 o bobl ar ei bwrdd, meddai ymchwilwyr yn Indonesia.
Dywedodd y Pwyllgor Diogelwch Trafnidiaeth Cenedlaethol bod y system reoli wedi anfon sawl rhybudd at y peilotiaid yn ystod y daith rhwng dinas Surabaya a Singapore ar 28 Rhagfyr y llynedd.
Yn ôl cofnodion yr awyren Airbus A320, roedd adroddiadau am broblemau gyda system reoli’r llyw wedi cael eu gwneud 23 o weithiau yn y flwyddyn cyn y ddamwain.
Ar ôl y pedwerydd rhybudd yn ystod y daith, fe geisiodd y peilotiaid ail-osod y system ond fe achosodd hynny broblemau gan wneud i’r awyren blymio i For Java.
Yn ôl adroddiad yr ymchwilwyr roedd blwch du’r awyren hefyd yn awgrymu bod ’na gamddealltwriaeth rhwng y peilot a’r cyd-beilot.
“Mae llawer i’w ddysgu yma i AirAsia, y gwneuthurwr a’r diwydiant awyrennau,” meddai prif weithredwr AirAsia Tony Fernandes. “Fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y diwydiant yn dysgu o’r diwydiant trasig yma.”